Athrawon
Diolch am ymweld â’n gwefan.
Ar y tudalennau hyn, byddwch yn dod o hyd i adnoddau a gwybodaeth
i’ch helpu wrth gynllunio gwersi (mae digonedd o daflenni
gwaith y gellir eu hargraffu) a rhai adroddiadau allweddol a phapurau
sy’n berthnasol i hybu iechyd yn yr ysgol.
Y pynciau a gwmpesir ar hyn o bryd yw:
Mae Pobl Ifanc yn Nghymru:
canfyddiadau astudiaeth o Ymddygiad Iechyd Plant o oedran Ysgol
(HSBC) 1986-2000 yn cynnwys llawer o adrannau a fydd o ddiddordeb
i athrawon, gan gynnwys penodau ar amgylchedd yr ysgol, ysmygu,
alcohol, plant yn camddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, patrymau
bwyta a gweithgaredd corfforol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu
fel ymateb i'r astudiaeth hon. Iechyd
a Lles Plant a Phobl Ifanc: Camau gweithredu mewn ymateb i'r materion
a godwyd gan yr Astudiaeth ar Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol
(HBSC) 1986-2000
Noder, efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn yr adran ar Gynlluniau
Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHSS) ar wefan Prif Swyddog
Meddygol Cymru. Ewch i www.cmo.cymru.gov.uk/content/work/schools/wnhss-w.htm
i gael gwybod mwy.
Gallwch gael taflen wybodaeth i athrawon am ofalwyr ifanc
drwy glicio yma.
Gofalwr ifanc yw rhywun sydd o dan 18 oed a’i
fywyd wedi’i gyfyngu am ei fod yn gorfod cymryd cyfrifoldeb
dros aelod o’i deulu oherwydd salwch, anabledd, iechyd meddwl
a phroblemau alcohol neu gyffuriau.
Mae gwybodaeth bellach fanylach am bob gofalwr ar gael ar wefan
Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: www.wales.gov.uk/subisocialcarers/
|