e.ysgol.iach hafan
Cyn-ysgol
Cynradd
Uwchradd Athrawon Rhieni a Llywodraethwyr
English
Help
Cyswllt
Gwefan Hybu Iechyd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Athrawon
ysmygu
maethiad
iechyd rhyw
ymarfer corff
diogelwch
camddefnyddio sylweddau
Athrawon

Iechyd A Cyfres 1

Mae Iechyd A yn gyfres deledu a gynhyrchwyd ar gyfer Addysg BBC Cymru ac sydd wedi’i gefnogi gan becyn adnoddau sy’n darparu deunyddiau i athrawon gyflwyno addysg iechyd yng Nghyfnod Allweddol 2.

Yn y gyfres gyntaf, mae pum rhaglen arloesol sy’n canolbwyntio ar dreuliad, anadlu, gwaed, y synhwyrau a thyfu.

Mae’r rhaglen ar ffurf siwrnai hudol drwy’r corff lle mae’r cyflwynydd, Elin, yn mynd yn fach ac yn teithio drwy systemau corfforol Blod. Mae’r rhaglenni ar gael ar fideo a gellir eu prynu gan BBC Cymru.

Mae’r pecyn yn darparu gwybodaeth i athrawon am wahanol rannau o’r corff gyda syniadau am weithgareddau sy’n ymwneud ag iechyd. Mae’r rhan fwyaf o’r deunyddiau i’w defnyddio gan yr athro/athrawes. Gall y disgyblion ddefnyddio rai o’r cardiau. Dynodir y cardiau hynny sy’n berthnasol i’r disgyblion. Ar adegau, cyfeirir at y fideo yn y deunyddiau.

Cliciwch ar dreuliad neu ar dyfu er mwyn cael deunydd perthnasol.

PDF, 1.4 MB Treuliad
PDF, 0.3 MB Tyfu

Gweler hefyd deunydd gan IechydA Cyfres 2.