Cystadleuaeth y Dosbarth Di-fwg
Dechrau drwg yw llyncu mwg!
Nid ywr Comisiwn Ewropeaidd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys
am y Gystadleuaeth Dosbarth Di-fwg ar y wefan hon.
Mae'r Gystadleuaeth Dosbarth Di-fwg yn gystadleuaeth ledled Ewrop
ar gyfer plant ym Mlynyddoedd 7 ac 8. Caiff ei chynnal yn flynyddol
ac ar hyn o bryd mae'n cynnwys 19 o wledydd gwahanol.
Yn 2000-01, cymerodd 525 o ddosbarthiadau o 87 o ysgolion yng Nghymru
ran.
Yn 2001-02, cymerodd plant o 560 o ddosbarthiadau ran, sef tua
13,487 o ddisgyblion.
Yn 2002-03, cymerodd 14,957 disgybl ran, o 586 dosbarth a 99 ysgol.
Yn 2003-04, cymerodd 13,453 disgybl ran, o 543 dosbarth a 106 ysgol.
Yn 2004-05, cymerodd 16,141 disgybl ran, o 632 dosbarth a 122 ysgol.
Yn 2005-06, cymerodd 14,589 disgybl ran, o 612 dosbarth a 136 ysgol.
Yn 2006-07, cymerodd 12,081 disgybl ran, o 488 dosbarth a 140 ysgol.
Yn 2007-08, cymerodd 13,277 disgybl ran, o 542 dosbarth a 114 ysgol.
Mae disgyblion yn cymryd rhan fel dosbarth ac yn rhoi addewid i
beidio â smygu dros gyfnod y gystadleuaeth. Bydd dosbarthiadau llwyddiannus
yn cael cymryd rhan mewn Cystadlaethau rheolaidd a gallant ennill
arian i'w hysgolion. Yn 2002-03, enillodd un dosbarth drip i Frwsel.
Cliciwch ar y linc perthnasol isod i ddarganfod mwy.
Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cystadleuaeth Dosbarth Di-fwg
Cymru, ac maen derbyn cymorth ariannol gan y Comisiwn Ewropeaidd.
|