e.ysgol.iach hafan
Cyn-ysgol
Cynradd
Uwchradd Athrawon Rhieni a Llywodraethwyr
English
Help
Cyswllt
Gwefan Hybu Iechyd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Uwchradd
ysmygu
nic'a'tina
diogelwch
Uwchradd

 

Pynciau Llosg

Mae 'Pynciau Llosg' yn becyn a lansiwyd yn ddiweddar gyda'r nod o gyflwyno amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â smygu mewn ffordd wreiddiol ac arloesol.

Yn hytrach nag edrych ar beryglon iechyd yn fanwl, mae 'Pynciau Llosg' yn annog disgyblion i feddwl drostynt eu hunain am rai o'r problemau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â smygu a thybaco.

Mae'r pecyn yn cynnwys cyfres o lyfrynnau a set ar wahân o 'gychwynwyr trafodaeth'. Mae'r llyfrynnau'n cynnwys amrywiaeth o erthyglau, gwybodaeth, taflenni gwaith, tasgau a deunyddiau eraill.

Mae 'Pynciau Llosg' ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4. Mae'r deunydd wedi'i anelu at ABCh a Chymraeg/Saesneg. Mae hefyd yn berthnasol i feysydd pynciau eraill fel AGr, Hanes a CCGC Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dosbarthwyd tri phecyn i bob ysgol uwchradd yng Nghymru. Cadwch lygad ar agor amdanynt mewn gwersi!

Cliciwch ar y delweddau isod am fwy o wybodaeth