e.ysgol.iach hafan
Cyn-ysgol
Cynradd
Uwchradd Athrawon Rhieni a Llywodraethwyr
English
Help
Cyswllt
Gwefan Hybu Iechyd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Uwchradd
ysmygu
nic'a'tina
diogelwch
Uwchradd

 

Grwpiau Atal Tybaco

Mae Grwpiau Atal Tybaco (TAGs) yn grwpiau a sefydlwyd mewn ysgolion uwchradd i roi cyfle i bobl ifanc benderfynu eu hunain beth sydd angen ei wneud am smygu yn eu hysgolion a'u cymunedau.

Gall disgyblion weithio gydag athrawon, swyddogion hybu iechyd, swyddogion safonau masnachu a busnesau lleol i ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau smygu yn eu hardal.

Ar hyn o bryd ceir 5 TAG yn Abertawe a 5 TAG yng Ngwynedd. Gobeithio y caiff y cynllun ei ymestyn yn y dyfodol.

Yn dilyn gweithdai llwyddiannus yn Abertawe a Gwynedd ym mis Ebrill 2000, cynhaliwyd y Gynhadledd Grwpiau Atal Tybaco yng Nghaerdydd ar 19eg Hydref, 2000.

Sefydlwyd y TAGs gydag arian gan GlaxoSmithKline a Barnardo's fel rhan o'u menter RightFit.