e.ysgol.iach hafan
Cyn-ysgol
Cynradd
Uwchradd Athrawon Rhieni a Llywodraethwyr
English
Help
Cyswllt
Gwefan Hybu Iechyd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynradd
ysmygu
maethiad
ymarfer corff
Cynradd

Arwyddion Mwg

Mae Arwyddion Mwg yn becyn newydd sbon i’ch helpu i ddeall pam mae’n ofnadwy o cw^l iawn i beidio ag ysmygu.

Mae pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn pecyn, ond dyma’ch cyfle chi i weld y gweithgareddau’n ‘dod yn fyw’ ar y We Fyd Eang.

Os ydych yn y Dosbarth Derbyn, dewch i wylio fersiwn arbennig o Ddiwrnod Myglyd Cledwyn neu gwrandewch a chanwch gyda Mwg y Ddraig, cân arbennig Cledwyn.

Os ydych chi ym Mlynyddoedd 1 a 2, dewch i roi cynnig ar ein posau chwilio am eiriau neu gwyliwch y posteri Arwyddion Mwg yn dechrau symud!

Os ydych chi ym Mlynyddoedd 3 a 4, mae gennym bosau sleidio cw^l i chi. Pa mor gyflym allwch chi eu gwneud nhw? Dewiswch eich lefel, datryswch y posau a cewch fynd i mewn i’n tudalennau cyfrinachol ‘ffeithiau diddorol’.

Os ydych chi ym Mlynyddoedd 5 a 6, yna mae rhywbeth arbennig ar eich cyfer gyda’n cwisiau rhyngweithiol arbennig. Faint o gwestiynau allwch CHI eu cael yn iawn?

Er mwyn is-lwytho'r copiau o'r adnodd printiedig, cliciwch yma