Maethiad
Mae bwyd yn wych ac mae bwyd yn grêt, ond gall bwyta gormod o un
peth, neu ddim digon o rywbeth arall, fod yn ddrwg i'ch iechyd felly
darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf ar fwyta'n iach gan ddefnyddio'r
linciau isod.
Mae Fy hoff fwydydd yn rhan o 'Ffeil 5 Seren' a gynhyrchwyd gan
Adran Hybu Iechyd Gwynedd ac fe'i defnyddir gyda'u caniatâd caredig.
Argraffwch y cerdyn gwaith hwn i brofi eich gwybodaeth am 'iechyd
da cytbwys'.
Beth fydda i'n ei wneud i gadw'n iach - gallwch greu eich pryd
o fwyd iach eich hun gyda'r lluniau bwyd canlynol. Argraffwch y
tudalennau sydd eu hangen arnoch ac yna gallwch gael hwyl yn torri
a lliwio.
Gallwch greu eich byrbrydau a phrydau iach eich hun drwy ddilyn
ein rysetiau.
Beth am fynd ar daith hud drwy'r corff gyda'r gyfres deledu IechydA
sydd ar gael gan Adran Addysg BBC Cymru. Am fwy o ffeithiau anhygoel
am y corff darllenwch y cardiau gwaith o'r gyfres. Cliciwch ar y
linc perthnasol isod i ddewis cardiau i'w hargraffu.
|