Ymarfer Corff
Ydych chi eisiau bod yn beldroediwr neu’n chwaraewr rygbi?
Efallai eich bod eisiau bod yn ddawnswraig neu’n falerina?
Ydych chi eisiau rhedeg marathon (mae rhai pobl eisiau gwneud hynny!)?
Neu ydych chi’n well am redeg yn gyflym mewn rasys byr? Efallai
bod yn well gennych wneud pethau tawelach megis chwarae gwyddbwyll?
Beth bynnag rydych yn hoffi ei wneud, gall ymarfer corff helpu.
Mae ymarfer corff yn eich helpu i fod yn heini ac yn iach. Gall
eich helpu i ganolbwyntio hefyd pan fydd angen i chi feddwl.
A dyma’r newyddion da... mae ymarfer corff yn hwyl!
Rydych chi’n ymarfer corff wrth wneud chwaraeon neu fynd
i’r gampfa. Ond peidiwch ag anghofio y gallwch wneud ymarfer
corff mewn llawer o ffyrdd eraill hefyd. Mae mynd am dro yn ymarfer
corff yn ogystal â rhedeg o gwmpas yn y maes chwarae amser
egwyl.
Mae gennym lawer o syniadau ar sut y gallwch ymarfer corff a chael
hwyl.
Cliciwch yma i ddarganfod sut y gallwch
ymarfer corff yn eich ystafell ddosbarth.
Cliciwch yma am syniadau yngly^n ag
ymarfer corff yn y maes chwarae.
|