e.ysgol.iach hafan
Cyn-ysgol
Cynradd
Uwchradd Athrawon Rhieni a Llywodraethwyr
English
Help
Cyswllt
Gwefan Hybu Iechyd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynradd
ysmygu
maethiad
ymarfer corff
Cynradd

Symud y Dosbarth! ®

Mae Symud y Dosbarth!® yn becyn arbennig sydd â llawer o syniadau am sut i ymarfer corff yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r ymarferion yn eich dysgu sut i fwynhau symud ac ymlacio. Pan fyddwch yn eu gwneud, byddwch yn dysgu am lawer o bethau newydd, megis am eich corff, eich teimladau, anadlu, cydbwyso, gwrando a thyfu.

Mae gan rai o’r ymarferion ganeuon arbennig er mwyn i chi gael ymarfer corff gyda’r gerddoriaeth. Gallwch wneud y rhan fwyaf ohonynt wrth sefyll yn agos at eich desg – ond gallwch wneud rhai ohonynt wrth eistedd hyd yn oed!

Mae pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn copi o Symud y Dosbarth!® Mae calendr o weithgareddau arbennig ar gyfer eich dosbarth yn y pecyn.

Gallwch argraffu rhywfaint o wybodaeth am Symud y Dosbarth!® drwy glicio yma.