Rheini a Llywodraethwyr
Mae gan rieini a llywodraethwyr ysgolion rôl bwysig i’w
chwarae wrth ddatblygu arferion hybu iechyd da mewn ysgolion.
Mae’r adran hon yn darparu dolenni cyswllt i wybodaeth a
chanllawiau hybu iechyd a allai fod yn ddefnyddiol i rieni a llywodraethwyr
ysgolion.
Darperir gwybodaeth ar y pynciau canlynol:
Mae canfyddiadau Pobl Ifanc
yng Nghymru: astudiaeth o Ymddygiad Iechyd Plant o oedran Ysgol
(HSBC) 1986-2000 yn cynnwys llawer o adrannau a fydd o ddiddordeb
i rieni a llywodraethwyr, gan gynnwys penodau ar amgylchedd yr ysgol,
smygu, alcohol, plant yn camddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon,
patrymau bwyta a gweithgareddau corfforol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu
fel ymateb i'r astudiaeth hon. Iechyd
a Lles Plant a Phobl Ifanc: Camau gweithredu mewn ymateb i'r materion
a godwyd gan yr Astudiaeth ar Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol
(HBSC) 1986-2000
Argymhellwn y dylai rhieni a llywodraethwyr ysgolion sydd â
diddordeb mewn hybu iechyd yn ysgolion eu plant, archwilio adrannau
eraill y wefan hon.
Noder y gall yr adran ar Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith
Cymru (WNHSS) fod o ddiddordeb i chi hefyd ar wefan Prif Swyddog
Meddygol Cymru. Ewch i www.cmo.cymru.gov.uk
i gael mwy o wybodaeth.
|