e.ysgol.iach hafan
Cyn-ysgol
Cynradd
Uwchradd Athrawon Rhieni a Llywodraethwyr
English
Help
Cyswllt
Gwefan Hybu Iechyd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynradd
Maethiad
Ysmygu
Cynradd

 

Rysetiau

Synnwch eich ffrindiau a'ch teulu â danteithion blasus gan ddefnyddio rysetiau sy'n tynnu dwr o'r dannedd. Dylai coginio a bwyta fod yn hwyl ond mae angen trin bwyd yn ofalus i'w gadw'n ddiogel. Cliciwch ar hylendid bwyd i ddarganfod sut i wneud hynny.

Hylendid bwyd Dwy dudalen A4 i'w hargraffu

Bydd Cacennau Draig hyfryd Cledwyn sy'n llawn syltanas, ceirch, a siocled yn sicr o roi tân yn eich bol. Bendigedig!

Cacennau draig Un dudalen A4 i'w hargraffu

Ysgytlaeth banana - os ydych yn hoff o smoothies byddwch wrth eich bodd â'r rysáit hwn a wneir â banana, llaeth a hufen iâ. Gallwch hyd yn oed greu eich rysáit eich hun gan ddefnyddio eich hoff ffrwyth meddal e.e. mefus yn lle'r fanana.

Ysgytlaeth banana PDF, 120KB

Brechdanau caws a thomato - Am ddewis arall iachus iawn defnyddiwch fara gwenith cyflawn wedi'i dorri'n drwchus neu lluniwch eich brechdan berffaith â'ch hoff lenwadau eich hun.

Brechdanau caws a thomato PDF, 135KB

Cewch grensian â'r salad afal, seleri a chnau blasus hwn. I sylw'r rhai sy'n dioddef o alergeddau cnau - defnyddiwch ffa wedi'u coginio neu ddarnau o gaws yn lle'r cnau.

Salad afal, seleri a chnau Un tudalen A4 i'w hargraffu

Os ydych chi'n gwirioni ar sêr fe ddowch o hyd i'r rysáit perffaith yn Swper y Sêr. Yma byddwch yn darganfod 18 o ddanteithion blasus hawdd eu paratoi y gellir eu paratoi mewn munudau.

Swper y Sêr PDF, 320KB

Anghofiwch am selsig du a sos coch yr haf yma - rhowch gynnig ar Tamaid tanbaid yn lle hynny. Digonedd o rysetiau i'w mwynhau trwy gydol dyddiau hirfelyn yr haf.

Tamaid tanbaid PDF, 256KB

Methu gwneud tost? Does dim angen i neb wybod - rhowch gynnig ar y rysetiau hawdd hyn yn lle.

Methu gwneud tost? Dwy dudalen A4 i'w hargraffu